
Rydych chi wedi cael eich atgyfeirio at y Gwasanaeth Lymffoedema lleol ac mae gennych apwyntiad wedi'i drefnu gyda therapydd. Bydd y dudalen hon yn rhoi manylion i chi ynghylch beth i'w ddisgwyl a chyngor am eich cyflwr.
Mae'r Gwasanaeth Lymffoedema yn gweld pobl sydd â chwydd yn unrhyw ran o'u corff sydd wedi bod yn bresennol am fwy na thri mis. Efallai eich bod hefyd wedi cael eich atgyfeirio at y Gwasanaeth Lymffoedema os oes gennych syndrom lipalgia (lipoedema) sef coesau brasterog a/neu boenus. Yn ystod eich apwyntiad byddwn yn gallu asesu a oes gennych unrhyw lymffoedema neu a ydych mewn perygl o'i ddatblygu.
Os nad oes gennych lymffoedema, gallwn roi gwybodaeth i chi i leihau'r risg, ond ni fyddwn yn trefnu'n ffurfiol i'ch gweld eto. Fodd bynnag, os oes angen i chi ein defnyddio, gallwch gysylltu â ni i drefnu apwyntiad. Os oes gennych lymffoedema yna gyda'n gilydd byddwn yn cynllunio'r driniaeth orau i chi.
Bydd y rhan fwyaf o gleifion sy'n cael eu hatgyfeirio atom yn cael asesiad rhithwir 30 munud dros y ffôn neu alwad fideo i ddechrau. Mae'r asesiad cychwynnol hwn yn caniatáu inni ddeall beth yw eich problemau a gallwn wedyn drefnu i'ch gweld yn bersonol yn y gwasanaeth lleol. Efallai na fydd angen y drafodaeth rithwir gychwynnol ar rai cleifion a dim ond apwyntiad wyneb yn wyneb yn y clinig fydd ganddyn nhw yn lle. Mae apwyntiad clinig fel arfer yn para tuag awr.
Cyn mynychu'r naill apwyntiad neu'r llall, anfonir dolen atoch yn electronig neu ar bapur ar gyfer LYMPROM©.
Beth yw LYMPROM©?Mae LYMPROM© yn Fesur Canlyniad a Adroddwyd gan Gleifion (PROM) i chi ddweud wrthym yr effaith y mae lymffoedema yn ei chael ar eich iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol. Cwblhewch LYMPROM©, gan y bydd o gymorth mawr i ni ddeall eich anghenion a chynllunio eich gofal.
Sut ydw i’n cyrchu LYMPROM©?Mae'r rhan fwyaf o'r Gwasanaethau Lymffoedema yng Nghymru yn defnyddio mynediad digidol i LYMPROM©. Mae hyn yn golygu y byddwch yn derbyn neges destun awtomataidd trwy eich ffôn symudol neu e-bost gyda dolen i gwblhau LYMPROM©. Bydd yr hysbysiad yn cael ei anfon o'ch gwasanaeth GIG lleol ac mae'n ddibynadwy.
Pan fyddwch chi'n mewngofnodi, gofynnir i chi am eich cyfenw, dyddiad geni a chod post. Ni ofynnir i chi am fanylion eich banc byth. Efallai y byddwch yn gweld bod yn rhaid i chi ddefnyddio cod testun (a anfonir i'ch ffôn symudol / llinell dir) i wirio'ch cyfrif y tro cyntaf i chi fewngofnodi. Byddwch yn derbyn y dolenni hyn bythefnos cyn apwyntiad.
Os na fyddwch chi'n cwblhau'r ddolen, anfonir neges atgoffa atoch chi hefyd. Os na allwch chi gwblhau hyn eich hun, efallai y gallech chi ofyn i berthynas neu ffrind am help neu gallem ni anfon copi papur atoch chi neu ofyn y cwestiynau i chi dros y ffôn.
Pa wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer fy apwyntiad?Mae'n ddefnyddiol cael rhywfaint o wybodaeth yn barod cyn eich apwyntiad:
Felly beth sy'n digwydd mewn asesiad?Bydd y therapydd yn gofyn llawer o gwestiynau i chi am eich iechyd, eich lles, eich croen a'ch corff ac wrth gwrs y chwydd. Pethau fel beth sy'n gwaethygu'r chwydd? A oes unrhyw beth yn ei wneud yn well?
Pan welwch chi'r therapydd wyneb yn wyneb, bydd yn cofnodi mwy o wybodaeth hefyd ac yn mesur eich lymffoedema gan ddefnyddio tâp mesur neu beiriannau gwahanol. Byddwn bob amser yn mesur y lymffoedema yr effeithir arno a'r ochr sydd heb ei heffeithio. Rydym bob amser yn cymryd eich pwysau a'ch taldra hefyd.
Bydd y therapydd yn egluro beth yw lymffoedema ac yn dweud wrthych a oes gennych unrhyw chwydd yn eich corff gan gynnig cynlluniau triniaeth unigol a chyngor i'ch helpu.
Os nad oes gennych unrhyw lymffoedema ni fyddwn yn trefnu'n ffurfiol i'ch gweld eto oni bai eich bod yn cysylltu â ni yn y dyfodol. Mae pob Gwasanaeth Lymffoedema yn ceisio gweld cleifion ar amser felly peidiwch â bod yn hwyr.
Beth ddylwn i ei wneud os nad yw'r apwyntiad yn addas?Os nad yw'r apwyntiad yn addas, neu os nad ydych chi eisiau cael eich gweld mwyach, rhowch wybod i ni fel y gallwn roi'r apwyntiad hwnnw i rywun arall. Ffoniwch ni gan adael neges ar y peiriant ateb neu drwy e-bost a gallwn aildrefnu'r apwyntiad i chi os oes angen.
Beth fydd yn digwydd ar ôl fy apwyntiad?Os oes gennych Lymffoedema, bydd y therapydd yn rhoi cyngor i chi a gyda'ch gilydd gallwch gytuno ar y ffordd orau o reoli'ch lymffoedema. Gall apwyntiadau dilynol fod yn y clinig neu'n rhithiol (dros y ffôn neu fideo). Dylech chi gwblhau LYMPROM© cyn pob apwyntiad dilynol fel y gall eich therapydd barhau i gynllunio ac adolygu eich gofal yn seiliedig ar yr hyn sydd bwysicaf i chi.
Pan fyddwch chi'n teimlo'n barod, efallai y byddwn ni'n trosglwyddo eich gofal i Dilyniant a Gychwynnir gan y Claf. Mae hyn yn golygu y gallwch gysylltu â ni pan fydd angen i chi gael eich gweld eto os bydd pethau'n newid neu os oes angen dillad cywasgu newydd arnoch.
Sut alla i roi gwybod i chi am fy mhrofiad apwyntiad?Ar ôl eich apwyntiad efallai y byddwch yn derbyn dolen arall fel y gallwch roi adborth ar eich profiad. Mae Gwasanaethau Lymffoedema yng Nghymru yn defnyddio arolwg profiad / boddhad o'r enw LYMPREM©. Mae eich adborth mor bwysig i ni i helpu i sicrhau bod ein safonau gofal yn bodloni eich disgwyliadau fel cleifion. Byddwch hefyd yn cael nodyn atgoffa i gwblhau LYMPREM©.
Nid yw fy apwyntiad am ychydig wythnosau, beth alla i ei wneud nawr?
English: pocketmedic.org/lymphoedema/
Welsh: pocketmedic.org/lymph-welsh/

Mae yna lawer o ffilmiau gwahanol i'w gwylio ond un gwych i ddechrau ag ef yw... Beth yw lymffoedema? a'r un Gofal Croen.
Efallai y byddai'n ddefnyddiol gwylio'r ffilmiau cyn eich apwyntiad, ond cofiwch fod hyn yn ddewisol. Gallwch chi bob amser eu gwylio ar ôl eich apwyntiad a'u rhannu gyda'ch teulu hefyd.
Defnyddio data i wella gwasanaethauO dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RDDC) a'r Ddeddf Diogelu Data, bydd eich gwybodaeth iechyd a gofal yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol yn unol â'r rheoliadau. Gall y Swyddog Diogelu Data yn eich Bwrdd Iechyd lleol roi rhagor o wybodaeth am hyn.
Cynhelir gwerthusiadau gwasanaeth ac archwiliadau clinigol yn aml o fewn ein Byrddau Iechyd i sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal o'r ansawdd uchaf ac yn cefnogi gwelliant parhaus. Dim ond y rhai sydd â chaniatâd i gael mynediad at eich nodiadau lymffoedema sy'n gwneud hyn drwy'r prosesau cyfreithiol a moesegol arferol ar gyfer diogelu data. Cedwir eich gwybodaeth yn ddiogel yn dilyn canllawiau Llywodraethu Gwybodaeth y Bwrdd Iechyd.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am archwiliadau, cysylltwch â: Lymphoedema.Network.Wales@wales.nhs.uk