Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil

Mae Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru (LWCN) yn gweithio gyda chleifion, clinigwyr ac academyddion i gynhyrchu ymchwil ac arloesedd mewn gofal lymffoedema.

Mae llawer o'n prosiectau ymchwil yn edrych ar anghenion addysgol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac wedi helpu i lunio addysg nyrsys, therapyddion a meddygon fel bod ganddynt yr adnoddau dysgu sydd eu hangen arnynt i wella gofal cleifion. Mae'r offer a ddatblygir o'r prosiectau hyn yn cael eu defnyddio'n rheolaidd ledled y byd ee yr offeryn hunan-adrodd oedema genital.

Mae prosiectau newydd yn cael eu hystyried yn gyson i sicrhau ein bod yn gwario ein hadnoddau ar y pethau a fydd yn cael yr effaith fwyaf. Ar hyn o bryd, mae'r prosiect 'LymphAssistTM at home' (IRAS ID 311663) yn edrych ar werth gofal lymffoedema yn y cartref gan ddefnyddio math arbennig o bwmp cywasgu a elwir yn LymphAssitTM.

Cyn yr astudiaeth hon, gellid gwahodd cleifion i sesiynau wythnosol y LymphAssistTM yn eu clinig lymffoedema lleol. Fodd bynnag, i rai cleifion roedd hyn yn her o ran mynediad, tra bod hyn yn dibynnu ar gapasiti ar gyfer gwasanaethau (sef staff a lle clinig, er enghraifft). Mae astudiaethau a wnaed mewn mannau eraill wedi dangos bod defnydd cartref o'r mathau hyn o bympiau o gymorth i gleifion. O ganlyniad, mae'r astudiaeth hon wedi'i datblygu i archwilio gwerth LymphAssistTM gartref. Dechreuodd yr astudiaeth yn haf 2022 a disgwylir iddo ddod i ben erbyn gaeaf 2023.