Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Rhaglen LWCN

Mae gan Fwrdd Rhaglen LWCN rôl allweddol o ran cefnogi'r Cyfarwyddwr Clinigol i wneud penderfyniadau a darparu her a chymeradwyaeth ar faterion sy'n effeithio ar gynnydd y Rhaglen LWCN. Mae Bwrdd y Rhaglen yn sicrhau dull cydweithredol o ddarparu gwasanaethau Lymffoedema ledled Cymru i gynnal amgylchedd sy'n cefnogi gofal Lymffoedema teg. Mae Bwrdd y Rhaglen yn cyfarfod bob chwarter, yn rhoi sicrwydd i Fwrdd Strategaeth LWCN o’r buddion a wireddwyd ac mae’n atebol i Lywodraeth Cymru.

Mae'r aelodaeth yn cynnwys uwch reolwyr sydd â diddordeb yn y Rhaglen LWCN. Mae’n cael ei gadeirio gan Adele Cahill, Cyfarwyddwr Cyswllt, Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Aneurin Bevan ac mae’n cynnwys y gynrychiolaeth a ganlyn:

Cyfarwyddwr Clinigol, LWCN

Arweinydd Addysg ac Ymchwil Lymffoedema Cenedlaethol, LWCN

Swyddfa Rheoli Rhaglen, LWCN

Cynrychiolwyr Cleifion

Uned Cyflenwi Cyllid

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cynrychiolydd Therapïau

Cynrychiolydd Gofal Sylfaenol

Llywodraethu Corfforaethol

Arolygiaeth Addysg Iechyd Cymru

Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol

Cynrychiolydd Trawsnewid

Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth

Caffael

Plant a Phobl Ifanc

Cynrychiolaeth Uwch Reolwyr 7 Bwrdd Iechyd.