Neidio i'r prif gynnwy

 

Dyma wefan swyddogol y GIG ar gyfer Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru (RhCLC)

Fe welwch wybodaeth ar y wefan hon mewn perthynas â lymffoedema ei hun, sut y gellir ei reoli’n well a rôl y Rhwydwaith o ran hwyluso hyn yng Nghymru.

Ymunwch â ni

Cofrestru ar-lein

Beth yw lymffoedema?

Mae lymffoedema yn gyflwr hirdymor sy'n achosi chwyddo ym meinweoedd y corff, fel arfer yn y breichiau neu'r coesau.

Mae'n digwydd pan fo problem gyda'r system lymffatig, sef rhwydwaith o lestri a chwarennau sy'n tynnu gormod o hylif ac yn ymladd haint. Mae dau fath: cynradd (sy'n enetig), ac eilaidd - a achosir gan niwed i'r system lymffatig o ganlyniad i haint, anaf, llid, triniaeth canser, neu ddiffyg symudiad.

Ledled y DU, amcangyfrifir bod lymffoedema yn effeithio ar fwy na 450,000 o bobl ac er nad oes iachâd, fel arfer mae'n bosibl lleihau croniad hylif. Mae triniaethau yn cynnwys gwisgo dillad cywasgu, gofalu am y croen yn dda, symud ac ymarfer corff yn rheolaidd, cael diet a ffordd o fyw iach, a defnyddio technegau tylino arbenigol.

Mae lymffoedema yn effeithio ar unigolion yn gorfforol, yn seicolegol, yn weithredol ac yn gymdeithasol.

Gall gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd a'r gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, pan gaiff ei reoli'n iawn - ac ar y cyd â gwell dealltwriaeth o'r cyflwr ei hun - gall pobl â lymffoedema ddysgu sut i hunanreoli'n well a chymhwyso strategaethau triniaeth syml a fydd yn helpu i gynyddu eu hannibyniaeth a lleihau'n sylweddol y risg y bydd eu lymffoedema yn gwaethygu.