Neidio i'r prif gynnwy

Hanes

Ym mis Rhagfyr 2009, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth ar gyfer Lymffoedema yng Nghymru. Prif nodau’r Strategaeth Lymffoedema oedd:-

  • Codi ymwybyddiaeth o lymffoedema a sut y gall strategaethau triniaeth syml wella ansawdd bywyd cleifion;
  • Gwella iechyd a lles trwy rymuso cleifion i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth eu hunain a lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â lymffoedema;
  • Integreiddio, datblygu, ad-drefnu a chynllunio a rheoli gwasanaethau lymffoedema yn fwy effeithiol ledled Cymru yn unol â'r saith Bwrdd Iechyd;
  • Gwella mynediad cleifion at wasanaethau lymffoedema gan sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth gywir ar yr adeg gywir gan y gweithiwr proffesiynol cywir yn y lle iawn;
  • Darparu dull lleihau risg cynhwysfawr i bob claf sydd mewn perygl o ddatblygu lymffoedema a thrwy hynny leihau’r galw ar wasanaethau eraill y GIG;
  • Adeiladu ar gryfderau’r gwasanaethau lymffoedema gofal eilaidd sy’n integreiddio ar draws ffiniau sefydliadol, gan ymgorffori gwasanaethau cymunedol, gofal sylfaenol a chymdeithasol;
  • Datblygu ac adeiladu ar y ddarpariaeth addysg lymffoedema sydd ar gael ar hyn o bryd gan alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gael mynediad hawdd at gyrsiau lleol i’w rhoi ar waith yn eu harfer eu hunain;

Ym mis Ebrill 2011 roedd £1 miliwn o bunnoedd o gyllid cylchol LlC ar gael i weithredu'r Strategaeth Lymffoedema a phenodwyd Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Lymffoedema. Ers mis Ionawr 2012, mae pob Bwrdd Iechyd (BI) yng Nghymru wedi cael Gwasanaeth Lymffoedema teg yn cynnig asesiad a gofal a ganwyd Rhwydwaith Lymffoedema Cymru (fel yr oedd yn cael ei adnabod bryd hynny).

Fodd bynnag, roedd y dyraniad cyllid cychwynnol yn seiliedig ar y galw am drin tua 6,000 o gleifion y flwyddyn. Bum mlynedd ar ôl ei sefydlu, roedd y galw wedi cynyddu 333% i dros 20,000.

Ym mis Rhagfyr 2018, datblygwyd Achos Busnes Lymffoedema Seiliedig ar Werth ac ym mis Mai 2019 fe’i cefnogwyd gan Lywodraeth Cymru a saith Prif Weithredwr byrddau iechyd. Sicrhawyd buddsoddiad ychwanegol ar gyfer mwy o swyddi cenedlaethol a chytunodd pob bwrdd iechyd i gynnal a gweithredu camau pellach yn y Strategaeth.

O ganlyniad, ail-frandiwyd Rhwydwaith Lymffoedema Cymru (fel y'i gelwid yn wreiddiol) i fod yn Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru (LWCN). Ar yr un pryd, symudodd Tîm Cenedlaethol Lymffoedema Cymru - a oedd yn cael ei gynnal yn flaenorol gan Grŵp Cydweithredol GIG Cymru - draw i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae Bwrdd Strategaeth LWCN yn gyfrifol am gynnal trosolwg strategol a sicrhau bod uchelgeisiau'r Rhwydwaith yn cael eu cyflawni, tra bod Bwrdd y Rhaglen yn goruchwylio cynnydd cyffredinol, cefnogi gwneud penderfyniadau a darparu her a chymeradwyaeth ar faterion sy'n effeithio ar y rhaglen gyfan. Yn ogystal â'r aelodau gweithredol, mae gan y ddau fwrdd gynrychiolaeth cleifion, ac mae gennym hefyd Banel Cynghori Cleifion .

Mae rhaglenni gwaith LWCN yn cynrychioli egwyddorion sylfaenol Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, (sydd â gofal claf-ganolog yn greiddiol iddo) ac yn ogystal â gwasanaethau lleol a chlinigau cenedlaethol, maent yn cynnwys nifer o brosiectau Cymru gyfan. Mae'r effaith y mae Gwasanaethau Lymffoedema ledled Cymru yn ei chael yn cael ei mesur yn unol â'i Fframwaith Gwerthuso .

Mae'r Rhwydwaith yn cyhoeddi data gweithgaredd ar gyfer pob bwrdd iechyd bob chwe mis yn ogystal ag Adroddiad Blynyddol ar gyfer yr holl ddarpariaeth a gweithgaredd. Defnyddir yr adroddiadau hyn i ddangos yr angen am newid a gwelliant pellach yn y gwasanaeth.