Neidio i'r prif gynnwy

Cyswllt Ymgynghorydd

Mae RhCLC ar gael ar Consultant Connect sy’n rhoi cyngor yn y fan a’r lle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol (GGIau) a allai fod eisiau cyngor ynghylch claf penodol, neu atgyfeirio claf i Wasanaethau Lymffoedema yng Nghymru. Gall GGIau naill ai ffonio pan fyddant gyda’r claf neu lawrlwytho a defnyddio Ap Consultant Connect.

Mae'r cyngor a'r arweiniad cyflym hwn yn cefnogi'r clinigwr gyda'i benderfyniadau, gan helpu i sicrhau'r gofal gorau i gleifion. Mae'r gwasanaeth yn cysylltu clinigwyr gofal sylfaenol yn uniongyrchol â thimau o arbenigwyr gofal eilaidd, gan ddileu oedi a darparu cyngor ac arweiniad ar gyfer gofal dewisol a brys. Gall clinigwyr ledled Cymru ddefnyddio Consultant Connect i gysylltu ag arbenigwyr lymffoedema trwy alwadau ffôn a negeseuon lluniau.

Astudiaeth achos lymffoedema – yn gysylltiedig yma

Mae’r tudalennau canlynol yn cynnwys gwybodaeth am Consultant Connect ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd, gan gynnwys dolenni i fideos arddangos:

Tudalen Gofal Sylfaenol Cymru - https://www.consultantconnect.org.uk/wales/

Tudalen Gofal Eilaidd Cymru - https://www.consultantconnect.org.uk/wales-secondary-care/