Mae addysgu ein staff a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn hanfodol. Mae'n rhaid i ni gefnogi gweithlu cymwys o fewn LWCN yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o lymffoedema ac oedema cronig a phwysigrwydd ymagwedd ragweithiol sy'n seiliedig ar werth at lymffoedema yng Nghymru ymhlith gweithlu ehangach y GIG.
Mae ein Strategaeth Addysg yn ymgorffori gweledigaeth ar gyfer addysgu a dysgu, yn ogystal â chasglu a myfyrio ar brofiad y dysgwr, ar adeg o newid cyflym a chymhlethdod o fewn y GIG. Mae darparu Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn hanfodol ac rydym yn hwyluso hyn trwy wreiddio diwylliant o ddysgu a datblygu gydol oes.
Bydd LWCN yn darparu addysg achrededig ar sail tystiolaeth a hyfforddiant arweinyddiaeth dosturiol i bob dysgwr. Rydym yn anelu at:
I gleifion a’u teuluoedd, mae addysg yn allweddol i alluogi pobl sy’n byw gyda neu mewn perygl o ddatblygu lymffoedema/ oedema cronig (a’r rhai sy’n eu helpu i reoli eu cyflwr) i adnabod yn gynnar, i hunanreoli neu i fabwysiadu’r driniaeth fwyaf priodol.
Rydym hefyd yn gweithio’n agos gydag AaGIC a gyda myfyrwyr cyn ac ôl-raddedig ledled Cymru i sicrhau bod ymwybyddiaeth a rheolaeth lymffoedema yn cael eu hymgorffori ymhellach ar draws ystod o raglenni a phroffesiynau gofal iechyd.