Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Genedlaethol Plant a Phobl Ifanc (NLCYP)

O fewn Gwasanaeth Lymffoedema pob Bwrdd Iechyd mae clinigwr Plant a Phobl Ifanc (PPI) dynodedig, a gefnogir gan ein Tîm Plant a Phobl Ifanc Cenedlaethol (Arweinydd Clinigol ac Arbenigwr Lymffoedema). Mae cydgynhyrchu a gofal sy’n canolbwyntio ar y claf yn ganolog i’n hymagwedd at driniaeth a’r cyngor arbenigol a roddwn i gleifion a’u teuluoedd.

CYP Patient Lymphoedema Adventure Wales

Beth ydyn ni'n ei wneud?

  • Gweithio gyda chleifion a'u teuluoedd i sicrhau eu bod yn deall lymffoedema;
  • Defnyddio offer cydnabyddedig i asesu a deall yr effaith gorfforol, gymdeithasol a seicolegol y gall lymffoedema ei chael;
  • Grymuso, galluogi a chefnogi strategaethau hunanreoli y gellir eu haddasu i gyd-fynd â gweithgareddau o ddydd i ddydd, gyda'r nod o reoli neu leihau chwyddo a lleihau'r risgiau o ddatblygu llid yr isgroen;
  • Darparu cyfleoedd ar gyfer cymorth cymheiriaid a chynhwysiant trwy ddigwyddiadau, diwrnodau gweithgaredd a digwyddiadau rhanddeiliaid;
  • Cyflwyno dysgu achrededig a sesiynau hyfforddi anffurfiol ar gyfer gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda phlant mewn gwasanaethau pediatrig a lleoliadau addysg;
  • Cychwyn a chymryd rhan mewn prosiectau ymchwil lymffoedema cenedlaethol a rhyngwladol sy'n benodol i'r grŵp oedran hwn;
  • Hyrwyddo ein Gwasanaeth a chanfyddiadau yn rhyngwladol gan ddefnyddio podlediadau a gweminarau.