
Porth CleifionDefnyddir Promptly gan gleifion i gwblhau neu barhau â holiaduron. Bydd cleifion yn derbyn neges yn eu croesawu i Borth Cleifion Promptly (Llun 1).
Ar ôl y neges groeso a phythefnos cyn eu hapwyntiad Lymffoedema, bydd cleifion yn derbyn hysbysiad drwy e-bost a/neu neges destun sy'n cynnwys dolen i'r holiadur sydd ar gael (Llun 2).
Os na chaiff yr holiadur ei gychwyn, anfonir neges atgyfnerthu'r diwrnod canlynol yn cynnwys y ddolen.

Sut Mae'r Holiaduron yn GweithioAgorir yr holiadur drwy glicio ar y ddolen yn y neges. Rhaid i chi dderbyn y Telerau ac amodau (Llun 3) yna bydd yr holiadur yn agor.
Bydd yr holiadur rydych chi'n ei ateb yn ymddangos ar y brig ger bar cynnydd (Llun 4). Bydd y bar cynnydd yn diweddaru yn ôl y cwestiwn rydych chi arno yn yr holiadur.

