Neidio i'r prif gynnwy

Dillad Cywasgu

Dillad Cywasgu
 
Compression
 

Beth yw dillad cywasgu a pham mae eu hangen arnaf?

Dillad cywasgu yw sanau, llewys neu ddillad isaf gydag elastig sy'n helpu i leihau chwydd a/neu gynnal eich gwythiennau.  Mae dillad yn gweithio gyda'ch cyhyrau i helpu i symud yr hylif i ffwrdd o'ch ardal lle mae chwydd.

Pryd ddylwn i wisgo fy nillad cywasgu?

Argymhellir eich bod yn gwisgo'ch dilledyn cyn gynted â phosibl ar ôl codi o'r gwely.  Mae'n well gwisgo'ch cywasgiad yn ystod eich oriau effro fel y gall eich cyhyrau weithio gyda'r dilledyn i feddalu a symud eich hylif lymff o'r ardal chwyddedig. 

A ddylwn i wisgo fy nillad cywasgu i'r gwely?

Gallwch chi dynnu'ch dilledyn cywasgu cyn mynd i'r gwely. Fodd bynnag, efallai y bydd eich therapydd yn eich cynghori i wisgo'ch dilledyn i'r gwely, neu i wisgo math gwahanol o ddilledyn pan fyddwch yn y gwely. Mae'r penderfyniad hwn yn seiliedig ar yr asesiad gan eich therapydd lymffoedema a gall newid dros amser.

Sut ydw i'n gwisgo ac yn tynnu fy nillad i ffwrdd?

Rydym yn cynnig detholiad o declynnau (cymhorthion gwisgo) y gallwch roi cynnig arnynt yn y clinig.  Gall y rhain eich helpu i wisgo a thynnu eich dillad yn haws.  Gallwn hefyd ddysgu eich ffrindiau a'ch teulu neu ofalwyr i'ch cynorthwyo. Nid oes unrhyw wasanaethau'r GIG ar gael i gefnogi gyda gwisgo neu dynnu eich dillad.

Pryd ddylwn i leithio fy nghroen os ydw i'n gwisgo dillad cywasgu?

Mae'n bwysig parhau i olchi, sychu a lleithio'ch croen bob dydd. Rhowch eich eli lleithio ar ôl i chi dynnu'ch dilledyn, neu 15 i 20 munud cyn gwisgo'ch dilledyn, fel y gall dreiddio i'ch croen. Bydd hyn yn cadw'ch croen yn iach, a bydd eich dilledyn cywasgu yn para'n hirach gan y gall lleithydd niweidio'r deunydd.

Sut ydw i'n gofalu am fy nillad cywasgu?

Bydd cyfarwyddiadau golchi wedi'u cynnwys yn y pecynnu ar gyfer eich dilledyn cywasgu. Dilynwch ganllawiau'r gwneuthurwr ar gyfer golchi a sychu'ch dilledyn cywasgu.  Yn ddelfrydol, golchwch eich dillad mewn peiriant golchi. Mae'n bwysig gwisgo dilledyn glân bob dydd i leihau'r risg o heintiau croen.  Er mwyn cynnal oes eich dillad, gwnewch yn siŵr bod eich ewinedd wedi'u tocio i osgoi niweidio'r ffabrig.

Faint o ddillad cywasgu ydw i'n eu cael?

YFel arfer, byddwch yn cael dau ddilledyn ar gyfer pob ardal o chwydd, fel bod gennych un i'w wisgo ac un i'w olchi.  Efallai y bydd mwy o ddillad ar gael yn dibynnu ar eich anghenion. Dylai pob dilledyn bara chwe mis os caiff ei wisgo bob dydd.

Sut ydw i'n cael dillad newydd?

Os yw eich dillad wedi'u difrodi ac angen eu hadnewyddu, neu os ydynt wedi mynd yn rhy fawr neu'n rhy fach ac nad ydynt bellach yn darparu'r driniaeth gywir i chi, cysylltwch â'ch gwasanaeth lymffoedema neu'r darparwr gofal iechyd perthnasol (Meddyg Teulu, Nyrs Ardal).

Pa ddillad rydw i ynddyn nhw ar hyn o bryd?

Efallai eich bod wedi cael gwybodaeth gan eich Arbenigwr Lymffoedema gyda manylion y dillad cywasgu a roddwyd i chi (fel isod):

Cwmni:   Cod:   Maint:  
Cywasgiad:   Arddull:   Lliw Dillad:  

Beth yw manteision gwisgo cywasgiad?

Mae cleifion yn adrodd y gall gwisgo dillad helpu i leihau poen, anghysur, trymder, dolur a chwydd, yn ogystal â gwella cyflwr y croen.

Beth ddylwn i ei wneud os oes gen i broblemau gyda fy nillad cywasgu?

Cysylltwch â'ch gwasanaeth lymffoedema lleol i gael cyngor.  Mae rhif ffôn eich Gwasanaeth Lymffoedema lleol i'w gael yma: https://rclc.gig.cymru/amdanom-ni/manylion-cyswllt/

Beth arall alla i ei wneud i reoli fy nghyflwr?

Mae gennym ni amrywiaeth o ffilmiau byrion, yn cynnwys pobl â lymffoedema, sy'n cynnwys cyngor.  Cliciwch ar y ddolen isod, sganiwch y cod QR, neu teipiwch y canlynol i'ch porwr rhyngrwyd: www.medic.video/w-lymph

Travelling

*Mae'r dolenni uchod yn agor tudalennau ar wefannau trydydd parti ac efallai na fydd rhywfaint o'r cynnwys ar gael yn y Gymraeg.