Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Seicoleg

Mae hon yn rhaglen waith newydd sy'n dechrau yn 2023. Mae Seicolegydd Ymgynghorol Lymffoedema newydd wedi'i phenodi i alluogi pobl yn y pen draw i gael mynediad at y cymorth seicolegol sydd ei angen arnynt i fyw bywydau cynhyrchiol ac uwchsgilio'r gweithlu lymffoedema presennol. Gall lymffoedema achosi anffurfiad corff gydol oes, poen a chael effaith sylweddol ar weithrediad dyddiol. Ar hyn o bryd yng Nghymru mae gan 9% o’r boblogaeth iselder neu bryder, ac mae gan 20% o fenywod a 13% o ddynion anhwylder iechyd meddwl, disgwylir i’r gyfran hon fod yn uwch yn y boblogaeth lymffoedema. Mae maint y pryderon seicolegol a brofir gan berson â lymffoedema yn amrywio'n fawr. Fel gyda salwch eraill, mae'n dibynnu ar sgiliau ymdopi'r person a graddau lymffoedema a sut y rheolwyd y diagnosis cychwynnol . Bydd darparu cymorth seicolegol i gleifion y nodwyd bod angen cymorth ychwanegol arnynt yn hybu hunanreolaeth. Bydd yn cynyddu gallu cleifion i ymdopi â chyflwr cronig gweladwy, dysgu technegau a all liniaru trallod emosiynol a hybu iechyd meddwl da ar gyfer eu dyfodol.

Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnwys

  • Cymorth seicolegol dwys uchel pwrpasol mewn Gwasanaethau Lymffoedema ledled Cymru ar gyfer y cleifion hynny (ifanc a hen) sydd angen cymorth brys a pharhaus, a all fod yn glinigau wyneb yn wyneb neu rithwir
  • Llwybrau clir sy’n galluogi’r cleifion hynny sydd angen cymorth brys yn cael eu gweld mewn modd amserol
  • Creu sesiynau grŵp i'n cleifion reoli eu hiechyd meddwl a byw'n dda
  • Uwchsgilio’r gweithlu LW presennol i gefnogi cleifion ag ymyriadau dwysedd isel
  • Gweithio gyda sefydliadau academaidd i ddiogelu'r gweithlu seicoleg ar gyfer y dyfodol