Neidio i'r prif gynnwy

Atgof Neges destun

Gwasanaeth Atgoffa am Apwyntiadau

Atgof Neges destun

Mae Cyfathrebiadau Gofal Iechyd yn dechnoleg brofedig sy'n cael eu defnyddio trwy gydol y GIG. Dangosir eu bod wedi arbed miloedd o bunoedd mewn apwyntiadau gwastraff a'u rhyddhau staff ar gyfer amser gofal.

Mae gwasanaeth atgof neges destun yn helpu cleifion i gofio manylion eu hapwyntiad a lleihau’r nifer o apwyntiadau a gollir.

Beth allaf ei ddisgwyl? 

Nodyn Atgoffa am Apwyntiad: peidiwch byth â cholli apwyntiad arall

Tua 1 wythnos cyn eich apwyntiad, byddwch yn derbyn neges destun yn cadarnhau eich dyddiad apwyntiad, amser a lleoliad.

Os nad oes gennych chi ffôn symudol, byddwch yn derbyn cadarnhad eich apwyntiad a nodyn atgoffa trwy alwad ffôn wedi'i hawtomeiddio yn syth i'r ffôn llinell tir.

Bydd y nodyn atgoffa yn cynnwys:

  • Math o apwyntiad e.e. apwyntiad wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu fideo.
  • Dyddiad, amser a lleoliad yr apwyntiad

Mae hyn yn helpu i wella eglurder ac mae'n arbennig o ddefnyddiol i gleifion sy'n mynychu apwyntiadau lluosog neu os defnyddir rhif ffôn cyswllt ar gyfer aelodau lluosog o'r teulu.

 

Amserlen

Mae nodiadau atgoffa ysbyty yn cael eu danfon i gleifion tua 7 diwrnod cyn eu hapwyntiad. Mae hyn yn caniatáu ddigon o amser i ail-ddyrannu apwyntiadau.

Beth os nad ydw i'n gallu mynychu fy apwyntiad neu angen aildrefnu?

Ar hyn o bryd mae nodiadau atgoffa yn dweud wrthych ba rif i ffonio neu gyfeiriad e-bost i e-bostio os ydych angen canslo neu aildrefnu apwyntiad. Peidiwch ag ymateb i neges destun, gan ni fydd hyn yn cael eu derbyn gan y canolfan archebu.

Sut ydw i'n gwybod bod y neges a dderbyniais gan y GIG?

Byddwch yn derbyn neges testun gan y canlynol: ‘BIPBA’ neu rif ffôn gyda'ch manylion apwyntiad. Bydd pob neges yn cynnwys 'Nodyn Atgoffa GIG Cymru'.

Bydd y GIG byth angen taliad neu ofyn i chi ddarparu manylion personol gan ymateb i neges destun.

Os ydych yn derbyn neges destun y rydych yn poeni amdano, peidiwch ag ymateb neu glicio ar unrhyw ddolenni. Os ydych angen gwirio apwyntiad, dylech gysylltu â'r rhif ffôn ar eich llythyr apwyntiad.

Hoffem dawelu eich meddwl bod eich gwybodaeth bersonol yn cael eu prosesu'n ddiogel a NI FYDD yn cael eu defnyddio at bwrpasau marchnata.

Mae'r daflen Eich Gwybodaeth, Eich Hawliau yn egluro pam mae GIG Cymru yn casglu gwybodaeth a sut y gellir ei defnyddio.

Cydsynio i optio allan o'r gwasanaeth

Hoffem dawelu eich meddwl bod y Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru wedi'i ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol yn unol â'r gyfraith. Byddwn yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel ac ond yn cael eu defnyddio at bwrpasau cyfreithiol y gallwn ei ddefnyddio. Gan fod y negeseuon atgoffa testun hyn yn rhan o'ch gofal uniongyrchol a'ch triniaeth gyfredol, mae'r bwrdd iechyd yn gallu defnyddio'ch rhif ffôn symudol o dan GDPR y DU i gysylltu â chi ynglŷn â'ch apwyntiad, oni bai eich bod yn dweud fel arall wrthym.

Os nad ydych chi am dderbyn atgof am apwyntiadau drwy neges destun, rhowch wybod i'r proffesiwn gofal iechyd neu'r tîm archebu a byddwn ni'n diweddaru eich cofnod i adlewyrchu eich dewis yn unol â'ch hawliau o dan GDPR y DU. Os nad yw'r rhif ffôn symudol rydych chi'n ei nodi yn rhif personol i chi, e.e. os yw'n perthyn i aelod o'r teulu neu ffrind, gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n cael gwybod, a bod gennych chi eu caniatâd.